
Dylunydd Gwasanaeth - Service Designer
Posted 2 weeks ago by Gofal Cymdeithasol Cymru / Social Care Wales
£52,966 Per year
Undetermined
Hybrid
Wales, United Kingdom
Summary: The Service Designer role at Social Care Wales involves delivering a user-centered digital strategy to improve services for children, adults, and their families. The position requires leading end-to-end service design, tackling complex challenges, and translating insights into actionable designs. This is a 12-month fixed-term position with flexible working options, including hybrid arrangements. Candidates must be based in the UK and able to visit designated offices as needed.
Key Responsibilities:
- Deliver the digital strategy by designing user-centered services.
- Lead end-to-end service design and tackle complex policy and service challenges.
- Analyze user needs and business objectives, map journeys and service blueprints.
- Run workshops, develop and test prototypes, and translate ideas into clear designs.
- Work as part of a multi-disciplinary team on service design projects.
- Gather and interpret user needs to define problems and develop evidence-based solutions.
Key Skills:
- Strong grounding and experience in user-centered design from concept to final delivery.
- Experience in research participation and using insights to inform service design.
- Experience creating service design artifacts, prototypes, user journeys, and service flows.
- Experience analyzing and synthesizing data and user research.
- A degree or equivalent vocational qualification.
Salary (Rate): £52,966 yearly
City: undetermined
Country: United Kingdom
Working Arrangements: hybrid
IR35 Status: undetermined
Seniority Level: undetermined
Industry: Other
Dylunydd Gwasanaeth Caerdydd a Llandudno, Cymru (gyda gweithio hybrid)
Amdanom Ni
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn darparu arweinyddiaeth ac arbenigedd mewn gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar yng Nghymru. Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chefnogaeth i blant, oedolion a'u teuluoedd a'u gofalwyr. Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn arwain ar ddatblygu a rheoleiddio'r gweithlu gofal cymdeithasol, gwella gwasanaethau, data ac ymchwil i wella gofal.
Rydym nawr yn chwilio am Ddylunydd Gwasanaeth i ymuno â ni ar sail tymor penodol o 12 mis (cyfnod mamolaeth). Cynigir y rôl hon gydag opsiynau gweithio hyblyg, a byddwn yn ystyried ymgeiswyr fel rhan o rannu swydd. Rhaid i chi fod wedi'ch lleoli yn y DU i wneud cais am y rôl hon a bod yn gallu ymweld ag un o'r swyddfeydd a nodwyd pan fo angen.
Y Manteision
- Cyflog o £48,134 - £52,966 y flwyddyn (pro rata)
- 28 diwrnod o wyliau ynghyd â gwyliau banc (pro rata)
- Cynllun pensiwn llywodraeth leol
- Polisi gwaith hyblyg
- Gweithio hybrid o gartref ac o'n swyddfa yn ôl yr angen
- Dewisiadau gweithio hyblyg, gan gynnwys ystyriaeth rhannu swydd
- Polisi absenoldeb teuluol
Y Rôl
Fel Dylunydd Gwasanaethau, byddwch yn cyflawni ein strategaeth ddigidol, gan weithio ar draws Gofal Cymdeithasol Cymru i ddylunio gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Gan arwain dylunio gwasanaethau o'r dechrau i'r diwedd, byddwch yn mynd i'r afael â heriau polisi a gwasanaethau cymhleth. Bydd mewnwelediadau'n cael eu troi'n welliannau ymarferol sy'n llunio sut mae pobl yn rhyngweithio â'n gwasanaethau ar-lein ac all-lein, gan sicrhau bob amser mai anghenion defnyddwyr sy'n dod yn gyntaf. Byddwch hefyd yn dadansoddi anghenion defnyddwyr ac amcanion busnes, yn mapio teithiau a chynlluniau gwasanaeth, yn cynnal gweithdai, yn datblygu ac yn profi prototeipiau, ac yn trosi syniadau'n ddyluniadau clir, ymarferol.
Yn ogystal, byddwch yn:
- Gweithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol ar brosiectau dylunio gwasanaethau
- Casglu a dehongli anghenion defnyddwyr i ddiffinio problemau a datblygu atebion sy'n seiliedig ar dystiolaeth
Amdanoch Chi
Er mwyn i chi gael eich ystyried yn Ddylunydd Gwasanaethau, bydd angen:
- Sylfaen a phrofiad cryf mewn dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr, o'r cysyniad i'r cyflwyniad terfynol
- Profiad o gymryd rhan mewn ymchwil a defnyddio mewnwelediad i lywio dylunio gwasanaethau
- Profiad o greu arteffactau dylunio gwasanaethau, prototeipiau, teithiau defnyddwyr a llifau gwasanaethau
- Profiad o ddadansoddi a syntheseiddio data ac ymchwil defnyddwyr
- Gradd neu gymhwyster galwedigaethol cyfatebol
Y dyddiad cau ar gyfer y rôl hon yw 3ydd Awst 2025. Gall sefydliadau eraill alw'r rôl hon yn Arbenigwr Dylunio Gwasanaethau, Dylunydd Gwasanaethau UX, Dylunydd Gwasanaethau Digidol, Uwch Ddylunydd Gwasanaethau, neu Arweinydd Dylunio sy'n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr. Gellir gwneud addasiadau rhesymol ar unrhyw gam o'r broses recriwtio ar gyfer ymgeiswyr ag anabledd, nam neu gyflwr iechyd, er enghraifft sy'n niwro-amrywiol neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Cysylltwch â'r Tîm AD i drafod addasiadau ar gyfer unrhyw ran o'r broses.
Felly, os ydych chi'n barod i ddod â'ch arbenigedd dylunio gwasanaethau i Gofal Cymdeithasol Cymru fel Dylunydd Gwasanaethau, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Gwasanaethau Asiantaeth Gyflogaeth yw'r gwasanaethau a hysbysebwyd gan Webrecruit.